SR-50557 visitor guide spring fixed - Flipbook - Page 6
Crwydro
Explore
I’r rhai sy’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer pethau i’w gwneud yn
ystod misoedd tanbaid yr haf, neu ar ddiwrnodau glawog oer, rydym
wedi llunio rhestr o weithgareddau allweddol y dylai ymwelwyr â Sir
Gâr eu hystyried wrth gynllunio’u taith, glaw neu hindda. Sganiwch y
côd QR i ddysgu rhagor...
Llwybrau Cynnyrch Lleol
Larder Trails
Dysgwch wybodaeth i’ch helpu i siopa,
coginio, bwyta ac yfed o gwmpas Sir Gâr
drwy ddilyn un o’n tri ‘Llwybr Cynnyrch
Lleol’ newydd. Bydd y rhain yn eich
arwain at rai o’r llefydd bwyta mwyaf
blasus yn y sir, gan gynnwys cwmnïau
rhostio coffi, cynhyrchwyr caws,
gwinllannoedd, delis a chigyddion.
Arm yourself with insider knowledge
to help you shop, cook, eat and drink
your way around Carmarthenshire
by following one of our three new
‘Larder Trails’. These will lead you to the
tastiest addresses in the county, from
coffee roasters and cheese producers,
to vineyards, delis and butchers.
Gerddi
Gardens
Mae gan Sir Gâr, a elwir yn ‘Ardd
Cymru’ nifer o erddi cyfoethog
ac amrywiol i’w harchwilio o
Aberglasne i Ardd Fotaneg Cymru i
barciau tref a gwledig gogoneddus.
Known as ‘the Garden of Wales’
Carmarthenshire has a number of
rich and varied gardens to explore
from Aberglasney to the Botanic
Garden of Wales to glorious town
and country parks.
Ffordd Wledig y Porthmyn Wild Drovers’ Way
Dewch i fwynhau taith odidog 180
milltir o hyd ar lonydd gwledig Sir
Gâr. Teithiwch ar hyd yr hewlydd
bach gwledig a dilynwch ôl troed
y porthmyn o’r Oesoedd Canol.
Rhannwyd yn dair rhan Llanwenog, Yr Eidion Du a Balwen.
Enjoy a beautiful 180-mile scenic
tour of Carmarthenshire’s lazy
lanes. Explore rural roads and follow
in the footsteps of the Drovers from
the Middle Ages. Divided into three
sections - Llanwenog, Black Ox and
Balwen.
Canllaw Arfordirol
Coastal Guide
Dewch i grwydro ar hyd darn gogoneddus
o arfordir ysblennydd yn Sir Gâr. Gallwch
gerdded a beicio ar hyd y arfordir, neu
eistedd a’i edmygu. Mae’r 67 milltir o
arfordir yn Sir Gâr yn cynnwys lleoliadau
eiconig, fel Traeth Pentywyn, Castell
Llansteffan a Goleudy Porth Tywyn.
A glorious stretch of spectacular
coastline awaits you in Carmarthenshire.
Walk it, cycle it or simply sit and admire
it. The 67-mile Carmarthenshire coastal
stretch feature’s iconic locations,
including Pendine Sands, Llansteffan
Castle and Burry Port lighthouse.